Labelu’r ymchwilydd gwaith rhyw

Katrien

Dr. Katrien Symons:

Labelu’r ymchwilydd gwaith rhyw

Ychydig wythnosau’n ôl, fe ddechreuais weithio ar y Prosiect Myfyrwyr yn y Diwydiant Rhyw, gan ddisodli Jacky Tyrie. Mae dechrau mewn swydd newydd yn un o’r pethau hynny mewn bywyd sy’n sbarduno cwestiynau gan y bobl sydd o’ch amgylch. Mae’r un fath â phan fyddwch yn prynu car newydd a bod pobl yn eich holi ynglŷn â pha fodel sydd gennych. A gall hyn ddigwydd yn amlach pan fyddwch yn symud i wlad arall ar gyfer y swydd honno (rwyf o wlad Belg). Pan fyddaf yn dweud wrth bobl fod y swydd newydd hon yn ymwneud ag ymchwilio i waith rhyw, mae’r ymateb y byddwch yn ei gael fel arfer yn amrywio o godi aeliau a chwerthin cynnil i deimlo’n lletchwith. ‘Dydw i erioed chwaith wedi gorfod wynebu cwestiynau mor ddwys ynglŷn â fy nheimladau personol “fel dynes” tuag at y testun rwyf yn ei astudio ac rwyf wedi astudio amrywiaeth o feysydd dros y blynyddoedd diwethaf. Rwyf yn gyfarwydd â’r math yma o sefyllfaoedd gan i mi astudio Rhywoleg yn y brifysgol. Mae hwnnw’n gwrs meistr sy’n ymdrin ag agweddau biolegol, seicolegol a chymdeithasol o rywioldeb dynol. Wrth wraidd fy mhenderfyniad i astudio Rhywoleg oedd awydd i ddeall yn well; sut mae cymdeithas yn mynd ati i ymdrin â rhywioldeb a’i drefnu, sut mae’n effeithio ar ein hiechyd a’n lles, ac yn y pen draw sut mae’n effeithio ar gymdeithas yn ei chyfanrwydd. Serch hynny, roedd y rhan fwyaf o bobl yn amau fod gen i gymhelliant mwy “rhywiol!”, gan gynnwys fy nghariad ar y pryd oedd yn obeithiol y byddai ymgymryd â’r cwrs yn deffro’r dduwies ryw ynof.

Nid fod dim o hyn wedi fy mhoeni. Nid yw ymateb pobl i’r hyn rwyf yn ei astudio erioed wedi bod yn elyniaethus neu’n negyddol. Yn hynny o beth, rydym ymhell o flaen yr hyn y bu rhaid i arloeswyr ymchwil rhyw megis Kinsey neu feistri rhyw Masters a Johnson ymdrin ag e. Heddiw, rydym ni, ymchwilwyr rhyw, yn gymuned gyda’n cylchgronau, rhwydweithiau a chynadleddau ein hunain. Mewn amgylchedd o’r fath, ni cheir unrhyw aeliau wedi eu codi, chwerthin cynnil nac unrhyw deimlad lletchwith. Rydym yn mynd ati i rannu ein gwybodaeth yn union fel pe baem yn trafod y datblygiadau diweddaraf ym myd gwyddoniaeth niwclear. Credaf mai’r rheswm pam bod pobl yn ymateb fel hyn pan fyddaf yn dweud wrthynt fy mod i’n gwneud ymchwil i waith rhyw yw eu bod – yn ymwybodol neu’n anymwybodol – yn cymryd yn ganiataol fod hyn yn ymwneud â fy mywyd rhywiol fy hun. Euogrwydd drwy gysylltiad. Ar sail yr ymateb rwyf yn ei gael, ni allaf ond dechrau dychmygu sut deimlad yw dweud wrth bobl eich bod chi’n gwerthu rhyw yn hytrach na dim ond ei astudio!

Credaf ei bod yn ddiogel dweud fod gan gymdeithas berthynas eithaf ansicr ag unrhyw beth sy’n ymwneud â rhyw. ‘Does dim amheuaeth fod rhyw yn amlycach yn yr 21ain ganrif, ond mae pobl yn dal i deimlo’n anesmwyth wrth ei drafod; mae tabŵ yn perthyn i rai elfennau. Mae pob cymdeithas yn trefnu ymddygiad rhywiol mewn rhyw ffordd drwy wahaniaethu rhwng yr hyn sy’n dderbyniol a’r hyn sy’n annerbyniol ac o’r herwydd gosodir cyfyngiadau. Nid yw’r categorïau hyn o ymddygiad rhywiol da a drwg yn gadarn; yn hytrach, maent yn newid yn barhaus. Diolch i ymdrechion cymaint o bobl, mae gennym bellach hawl fwy nag erioed i ddewis drosom ein hunain pa ymddygiad rhywiol sy’n gweddu orau i ni, gyda phwy, pryd, dan ba amodau, ac os yw’n diwallu amcanion cenhedlu. ‘Does dim rhaid i ryw fod yn rhamantus i fod yn “dda”, ac nid yw ymyrraeth gan y wladwriaeth yn ein hymddygiad rhywiol ond yn dderbyniol pan fo diogelwch a lles pobl eraill yn y fantol.

Felly beth yw’r broblem gyda gwaith rhyw, gan mai oedolion sy’n cydsynio sy’n cyfranogi? A pham nad yw mathau eraill o ryw fel rhan o fargen – boed i’r rheiny sydd erioed wedi cael rhyw er mwyn cyflawni rhywbeth daflu’r garreg gyntaf – yn broblem? Mae’r trafodiad ariannol sy’n digwydd mewn gwaith rhyw yn gwneud yr agwedd honno o’r profiad rhywiol yn amlwg ac yn amhosib i’w wadu nes ei fod yn peri syndod. O safbwynt trefn foesegol, ystyrir gweithwyr rhyw i fod yn tarfu ar “ y strwythur cymdeithasol”; o’r safbwynt hwnnw dylid diddymu gwaith rhyw neu o leiaf ei wneud mor anweladwy â phosibl. Y dyddiau hyn, mae’n fwy poblogaidd beio cleientiaid gweithwyr rhyw yn hytrach na’r gweithwyr rhyw eu hunain. Ond rhaid canfod rhywun i osod y bai arnynt, gan fod yr ymddygiad ynddo’i hun yn annerbyniol. Felly nid yw’r syniad o weld y gweithiwr rhyw fel troseddwr ac o weld y gweithiwr rhyw fel rhywun sy’n dioddef trais gan ddynion yn y pen draw mor wahanol i’w gilydd; yn hytrach dwy ochr o’r un geiniog sy’n dweud fod “gwaith rhyw yn annerbyniol”.

Hyd yn oed yn yr 21ain ganrif mae yno’n dal i fod angen i ni fod yn fwy ymwybodol o bwy neu beth sy’n diffinio pryd a than ba amgylchiadau y dylid caniatáu neu wahardd rhyw. Mae mwy i’r safbwyntiau hyn na barn bersonol, yn hytrach mae iddynt ganlyniadau diriaethol, yn arbennig i weithwyr rhyw. Maent yn effeithio ar y math o bolisïau gwaith rhyw a osodir mewn lle, os gellir arestio gweithiwr rhyw a than ba amodau mae rhaid iddynt weithio. Maent yn penderfynu os cam-wahaniaethir yn eu herbyn ac os cânt eu stigmateiddio; maent yn effeithio ar fynediad gweithwyr rhyw i wasanaethau iechyd, a’u gallu i reportio trosedd dreisiol i’r heddlu.

Tybed sut mae gweithwyr rhyw eu hunain yn teimlo ynglŷn â bod yn destun ymchwil? Ydyn nhw’n teimlo fel mwncïod mewn sw? Nad yw eu busnes nhw o ddim busnes i ni? Neu ydyn nhw’n credu y gallai rhywbeth da ddod o hyn, er enghraifft llai o stigmateiddio, llai o gael eu hystyried i fod yn droseddwyr, amgylchedd gweithio diogelach, mynediad i wasanaethau iechyd rhywiol a chymdeithasol? Ynghyd ag ymchwilwyr gwaith rhyw eraill yn y DU a thramor, rwyf nawr yn gweithio tuag at hyn. Yn ystod y flwyddyn sydd i ddod, caiff canlyniadau’r Prosiect Myfyrwyr yn y Diwydiant Rhyw eu dadansoddi, eu ‘sgrifennu i lawr a’u dosbarthu. Yn y pen draw, rwyf yn gobeithio y bydd pob trafodaeth o ryw yn gwella ein gallu i ymdrin â rhyw mewn ffordd lai cyfyngedig. Hyderaf y byddai hyn o les i ni i gyd.

2 comments on “Labelu’r ymchwilydd gwaith rhyw
  1. Dr. Howard Bork says:

    What an excellent, eloquently written article. As a species we seem to have made an alien of an instinct as fundamental, if we are to survive, as the need to eat; yet we engage in it/with it and discuss it in the most remarkable and diverse ways.

    Fascinating topic, even if it does make me giggle. Well done Dr. Symons. Good luck with the research.

  2. E says:

    “I wonder how sex workers themselves feel about being the subjects of research. Do they feel like monkeys in a zoo? That their business is none of our business? Or do they think actually some good may come out of it, such as less stigmatization, less criminalisation, safer work environments, improved access to sexual health and social services? ”

    All of the above, generally.

Leave a Reply

Your email address will not be published.